Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 12 Ionawr 2022
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Mae'r Llywydd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(5 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor
(5 munud)
NDM7885 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sioned Williams (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Siân Gwenllian (Plaid Cymru).
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig
(60 munud)
NDM7879 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Dyled a'r pandemig, a osodwyd ar 15 Tachwedd 2021.
Dogfen
ategol
Ymateb
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad – 6 Ionawr
2022
7 Dadl Plaid Cymru – Anghydraddoldebau iechyd
(60 munud)
NDM7877 Siân Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.
2. Yn nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.
3. Yn galw am strategaeth a chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.
Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7878 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Ionawr 2022